Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA80 - Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 20 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd: 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(2)
CLA81 – Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’i gwnaed: 20 Ionawr 2012
Fe’i gosodwyd: 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(2)
CLA82 – Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’i gwnaed: 20 Ionawr 2012
Fe’i gosodwyd: 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(2)
CLA83 – Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 20 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd: 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(2)
CLA84 – Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 20 Ionawr 2012
Fe’u gosodwyd: 26 Ionawr 2012
Yn dod i rym: yn unol â rheoliad 1(2)
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
Dim
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Busnes Arall
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AC, ynghylch y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol.
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am:
· y gweithdrefnau a fyddai’n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol o dan Adran 7 y mae modd i’r Ysgrifennydd Gwladol eu gweithredu ar yr un pryd;
· sut y ceir cyfaddawd pan fydd gwahaniaeth barn rhwng dau Gyngor Cymunedol a rhwng Cynghorau Cymunedol ac Awdurdodau Unedol ynghylch yr angen i greu is-ddeddfau newydd; ac
· yr ystod ar gyfer cosb benodedig ac a ddylid bod mwy o gysondeb gweithdrefnol rhwng y Gorchmynion sy’n newid y gosb benodedig (y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol) a’r Rheoliadau sy’n pennu ystod y cosbau (y weithdrefn penderfyniad negyddol).
Gohebiaeth y Pwyllgor
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) Atodol ynghylch y Bil Diwygio Lles
Trafododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch y Bil Diwygio Lles. Penderfynodd y Pwyllgor adlewyrchu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn yn ei adroddiad ar yr ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU.
Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddewis y weithdrefn gadarnhaol neu negyddol mewn is-ddeddfwriaeth
Trafododd y Pwyllgor ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ddewis y weithdrefn gadarnhaol neu negyddol mewn is-ddeddfwriaeth a anfonwyd gan y Cwnsler Cyffredinol mewn llythyr dyddiedig 24 Ionawr 2012. Penderfynodd y Pwyllgor ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol i’w hysbysu am y materion a amlygwyd yn y drafodaeth.
Penderfyniad i gwrdd yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth ar y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
6 Chwefror 2012